Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Cymru a wastad wedi edmygu’r Wyddfa o bellter ond erioed wedi llwyddo i gyrraedd y copa – efallai mai rŵan ydy’r amser i newid hynny! Archebwch dywysydd mynydd Cymraeg MountainXperience i’ch arwain chi a’ch ffrindiau i’r copa a dysgu ei hanes ar hyd y ffordd.

Rydym yn gweithredu grŵp heicio Saesneg rhwng Ebrill a Hydref ond yn gallu trefnu archebion preifat efo tywysydd Cymraeg unrhyw adeg o’r flwyddyn. Byddwn yn sgwrsio efo chi ymlaen llaw ac yn sicrhau bod gennych y gêr cywir ar gyfer diwrnod pleserus allan. Ar y diwrnod byddwch yn cyfarfod eich tywysydd lleol yn y man cychwyn a fydd yn eich arwain yn ddiogel i’r copa (ac yn ôl eto!) ac yn eich cyflenwi efo ffeithiau difyr a jôcs gwael ar hyd y ffordd.

P’un a ydych chi’n ei wneud ar gyfer elusen, efo grŵp o ffrindiau, fel antur teulu neu dim ond er mwyn eich pleser eich hun, bydd MountainXperience yn tynnu’r drafferth allan o gynllunio eich antur a’ch cadw’n ddiogel ar y diwrnod. Byddwch ddim ond yn cyfarfod tywysyddion mynydd cymwys a phrofiadol sydd wedi’u hyswirio’n llawn ac yn meddu ar dystysgrifau cymorth cyntaf cyfredol i sicrhau eich diogelwch. Rydym wedi bod yn crwydro mynyddoedd Eryri ers dros ddegawd ac nid ydym yn caru unrhyw beth yn fwy na’u rhannu efo chi.

Os ydych chi’n barod i archebu eich taith ddringo’r Wyddfa efo’ch tywysydd Cymraeg MountainXperience cysylltwch â ni.

What people say about this activity

Cwestiynau Cyffredin

Mae croeso mawr i blant ond rhaid iddynt fod yng nghwmni eu rhiant neu warcheidwad bob amser. Os ydych yn ansicr ynghylch addasrwydd eich plentyn, cysylltwch â ni a gallwn gael sgwrs.

Mae hynny i gyd yn dibynnu ar ba mor gyflym rydych chi’n cerdded! Os ydych yn cerdded mewn grŵp, byddwn bob amser yn anelu at aros gyda’n gilydd a byddwn yn mynd ar gyflymder y person arafaf. Dylech ei drin fel diwrnod allan a disgwyl iddo gymryd chwech i wyth awr i gyrraedd y copa ac yn ôl i lawr eto. Nid ydym byth yn trin y dyddiau hyn fel rasys neu brawf o ddygnwch – y syniad yw mwynhau eich hun.

Dim o gwbl. Fel gyda llawer o weithgareddau awyr agored gallwch chi wario ffortiwn yn hawdd ar y dillad diweddaraf o’r ansawdd gorau ond does dim angen mewn gwirionedd. Mae bŵts cerdded yn well nag esgidiau cerdded ac mae esgidiau cerdded yn well nag esgidiau chwaraeon (trainers) ond os mai’r cyfan sydd gennych chi yw pâr o esgidiau chwaraeon cadarn, cyfforddus yna byddan nhw’n iawn.

Gan ddechrau o’r gwaelod i fyny, bydd angen rhywbeth cyfforddus arnoch i gerdded ynddo. Os ydych wedi prynu esgidiau newydd ceisiwch eu gwisgo ychydig o weithiau cyn dringo’r Wyddfa i wneud yn siŵr eu bod yn ffitio’n dda. Gall pâr ychwanegol o sanau hefyd fod yn syniad da. Mae trowsus cerdded yn wych, yn enwedig y rhai y gallwch chi sipio’r gwaelodion a’u tynnu i wneud siorts. Nid yw jîns yn syniad da o gwbl oherwydd pe baent yn gwlychu byddent yn mynd yn drwm iawn ac yn anodd eu sychu. Yr ateb gorau ar gyfer eich hanner uchaf yw gwisgo haenau. Peidiwch â gwisgo crys-t yna cot fawr drom —  mae’n well gwisgo crys-t, fflîs o ryw fath a siaced — felly gallwch ychwanegu/tynnu haenau yn hawdd wrth i’r amodau newid. Os oes gennych het a menig yna paciwch nhw. Cofiwch y bydd y tymheredd ar y copa bob amser gryn dipyn yn llai nag ar lefel y môr felly byddwch yn barod. Yn olaf, bydd angen bag cefn arnoch i gario popeth. Nid oes angen bag cefn enfawr – dim ond rhywbeth digon mawr i gario’ch cinio a’ch darnau sbâr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hyn sydd ei angen arnoch ar y diwrnod, cysylltwch â ni.

Dyma beth rydym yn argymell y dylai pawb ei gael wrth ddringo’r Wyddfa ond rydym yn deall y bydd y tywydd ar y diwrnod yn effeithio ar yr hyn rydych chi’n ei bacio.

  • Bag cefn
  • Bŵts/esgidiau cerdded
  • Sanau cynnes (a phâr sbâr yn eich bag cefn)
  • Trowsus cerdded
  • Trowsus sy’n dal dŵr
  • Haen sylfaen (ee crys-t)
  • Haen ganol fel fflîs (ynghyd ag un sbâr yn eich bag cefn)
  • Haen allanol (ee siaced ysgafn)
  • Siaced sy’n dal dŵr
  • Rhai eitemau dillad sbâr ar gyfer argyfyngau
  • Het wlanog/het haul
  • Menyg
  • Bagiau sych/bagiau bin i gadw pethau’n sych
  • Polion cerdded
  • Bwyd — digon i bara drwy’r dydd yn ogystal â pheth sbâr
  • Dŵr — o leiaf un litr, dwbl hynny os yn bosibl

Ydy, mae’n gallu bod ar adegau. Efallai eich bod wedi gweld lluniau o dyrfaoedd yn ciwio ar y copa am eu cyfle i dynnu lluniau, ond dim ond ar benwythnosau haf a gwyliau banc heulog y mae hyn yn digwydd mewn gwirionedd. Er mwyn helpu i liniaru hyn, rydym bob amser yn argymell dechrau’n gynnar.

Oes, mae yna. Ond dim ond o thua diwedd y Gwanwyn tan ddiwedd mis Hydref y bydd yn agored ac yna dim ond ar ddiwrnodau tywydd da felly mae bob amser yn well bod yn hunangynhaliol a dod â’ch byrbrydau a’ch diodydd eich hun.

Mae toiledau cyhoeddus ar ddechrau pob llwybr a phan fydd canolfan ymwelwyr y copa ar agor mae cyfleusterau ar y brig hefyd.

Gallwch! Os ydych yn teithio’n lleol o Fetws-y-Coed neu Gaernarfon gallwch ddal bws S1 Sherpa’r Wyddfa neu os ydych yn dod o Fangor bydd angen gwasanaeth S2 Sherpa’r Wyddfa arnoch. Anelwch am Gyfnewidfa Llanberis ac yna cerddwch ar draws y ffordd i’n man cyfarfod ar Reilffordd yr Wyddfa.

Mae croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda ar ein teithiau cerdded i fyny’r Wyddfa ond oherwydd y nifer o ddefaid ac adar sy’n nythu ar y ddaear, bydd angen iddynt fod ar dennyn drwy gydol y dydd. Dylech hefyd fod yn sicr bod eich ci yn gyffyrddus â phellter a hyd y daith. Ni fyddem yn argymell y gweithgaredd hwn fel rhywbeth sy’n addas ar gyfer eich cath, bochdew neu bysgodyn aur.

Yn 2022, llwyddodd dros 95% o’n cleientiaid i gyrraedd copa’r Wyddfa. Bydd ein tywyswyr bob amser yn ceisio eich cael chi a’r grŵp yno, ond weithiau efallai na fydd yn bosibl am resymau diogelwch.

 

Os yw’n rhy wyntog neu os oes gormod o eira neu rew ar y llwybr yna bydd ein tywyswyr yn troi’r grŵp yn ôl yn y man lle nad yw’n ddiogel parhau mwyach. Ar yr achlysur prin y mae hyn yn digwydd, mae fel arfer ar ôl tri chwarter y ffordd felly gobeithio y byddwch dal i fod wedi cael diwrnod da allan.

 

Weithiau gall ffitrwydd cyffredinol neu gyflymder cerdded aelod o’r grŵp olygu bod rhaid troi’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd yn ôl er mwyn osgoi achosi problemau i weddill y grŵp er bod ein tywyswyr fel arfer yn gallu adnabod hyn yn gynnar iawn yn y dydd.

Diogelwch fydd prif flaenoriaeth ein tywyswr bob amser.

If it’s too windy or there’s too much snow or ice on the path then our guides will turn the group around at the point where it’s no longer safe to continue. On the rare occasion this does happen, it’s typically after the three-quarter way mark so hopefully you’ll have still had a good day out.

Sometimes the general fitness or walking speed of a member of the group might mean turning back those who are struggling to avoid causing issues for the rest of the group although our guides are usually able to recognise this very early on in the day.

Safety will always be our guide’s main priority.

Fel arfer mae’n cymryd tua chwe awr i gyrraedd y copa ac yn ôl i lawr eto. Weithiau rydyn ni’n mynd ychydig yn gyflymach ac weithiau ychydig yn arafach – mae’n dibynnu ar y grŵp y diwrnod hwnnw. Anaml y bydd yn cymryd mwy na saith awr.

More activities