Codiad haul ar yr Wyddfa

Codiad haul ar yr Wyddfa

  • Dewch i weld yr haul yn codi o gopa’r Wyddfa
  • Mwynhewch y profiad o gael y mynydd i chi’ch hun
  • Lluniau am ddim
  • Tywyswyr mynydd lleol
  • Gostyngiadau oddi ar frandiau mawr gyda Cotswold Outdoor

Ni all unrhyw beth fod yn fwy hudol na gwylio’r haul yn codi dros y mynyddoedd wrth sefyll ar gopa’r Wyddfa, pwynt uchaf Cymru.

Read More
Snowdon Event Management

Rheoli digwyddiadau’r Wyddfa

Mae MountainXperience yn arbenigwyr o ran trefnu digwyddiadau o bob maint ar yr Wyddfa. Gyda blynyddoedd o brofiad rheoli digwyddiadau, ni yw’r dewis delfrydol ar gyfer eich digwyddiad mynydd. P’un a ydych yn bwriadu dringo’r Wyddfa fel teulu o bedwar neu eisiau dod â’ch gweithlu cyfan gyda 100+ o staff i Eryri, gallwn drefnu’r logisteg ar gyfer grwpiau o unrhyw faint. Mae ein gwasanaeth rheoli digwyddiadau’r Wyddfa heb ei ail.

O’r tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn trafod eich anghenion ac yn gweithio i ddeall yn union beth yr hoffech ei gyflawni. Gallwn eich cynghori ar ddewis y llwybr mwyaf addas i fyny’r mynydd ar gyfer eich grŵp ac awgrymu amseroedd cychwyn. Efallai eich bod yn chwilio am heic arferol yn ystod y dydd yn dechrau fel arfer rhwng 8am a 9am neu efallai yr hoffech drefnu taith gerdded i fyny’r Wyddfa tra bod yr haul yn codi/machlud.

Read More
Heicio i gopa'r Wyddfa

Heicio i gopa’r Wyddfa

  • Cyrhaeddwch gopa Cymru gyda thywyswyr mynydd lleol
  • Anturiaethau dyddiol trwy gydol y flwyddyn
  • Lluniau am ddim
  • Olrhain byw ar gael
  • Gostyngiadau oddi ar frandiau mawr gyda Cotswold Outdoor

Yn uchel ar restrau llawer o bobl o bethau i’w gwneud cyn marw mae concro copa’r Wyddfa. Byddwch yn cyrraedd pwynt uchaf Ynysoedd Prydain y tu allan i Ucheldir yr Alban ac nid yw’n gamp hawdd i ddringo 1,085m (3,560tr) uwchlaw lefel y môr.

Read More