- Cyrhaeddwch gopa Cymru gyda thywyswyr mynydd lleol
- Anturiaethau dyddiol trwy gydol y flwyddyn
- Lluniau am ddim
- Olrhain byw ar gael
- Gostyngiadau oddi ar frandiau mawr gyda Cotswold Outdoor
Yn uchel ar restrau llawer o bobl o bethau i’w gwneud cyn marw mae concro copa’r Wyddfa. Byddwch yn cyrraedd pwynt uchaf Ynysoedd Prydain y tu allan i Ucheldir yr Alban ac nid yw’n gamp hawdd i ddringo 1,085m (3,560tr) uwchlaw lefel y môr.
Rydyn ni’n cynnal ein teithiau grŵp bron bob dydd rhwng mis Ebrill a mis Hydref neu os ydych chi am archebu’n breifat byddwn ni hefyd yn cynnig dewis arall o lwybrau. Byddwn yn sgwrsio â chi ymlaen llaw ac yn sicrhau bod gennych yr offer cywir ar gyfer diwrnod allan pleserus. Ar y diwrnod fe fyddwch chi’n cwrdd â’ch tywysydd yn y man cychwyn a byddant yn eich arwain yn ddiogel i’r copa (ac yn ôl eto!) gan ddweud ffeithiau difyr a jôcs gwael wrthych ar hyd y daith.
P’un a ydych chi’n ei wneud ar gyfer elusen, gyda grŵp o ffrindiau, fel taith i’r teulu neu dim ond er eich pleser eich hun, bydd MountainXperience yn gwaredu’r drafferth o gynllunio’ch antur ac yn eich cadw’n ddiogel ar y diwrnod. Byddwch ond yn cwrdd â thywyswyr mynydd cymwys a phrofiadol sydd wedi’u hyswirio’n llawn ac sydd â thystysgrifau cymorth cyntaf cyfredol i sicrhau eich diogelwch. Rydym wedi bod yn crwydro mynyddoedd Eryri ers dros ddegawd ac rydyn ni wrth ein bodd yn eu rhannu gyda chi.
Os ydych chi’n barod i archebu eich taith i fyny’r Wyddfa cliciwch yma i ddewis eich dyddiad dewisol o’n calendr argaeledd byw.