Codiad haul ar yr Wyddfa
  • Dewch i weld yr haul yn codi o gopa’r Wyddfa
  • Mwynhewch y profiad o gael y mynydd i chi’ch hun
  • Lluniau am ddim
  • Tywyswyr mynydd lleol
  • Gostyngiadau oddi ar frandiau mawr gyda Cotswold Outdoor

Ni all unrhyw beth fod yn fwy hudol na gwylio’r haul yn codi dros y mynyddoedd wrth sefyll ar gopa’r Wyddfa, pwynt uchaf Cymru.

Byddwch yn dechrau eich taith ddringo tra ei bod hi’n dywyll gyda’r unig olau yn dod o’ch tortsh pen a’r lleuad. Yn ddiogel gyda’ch tywysydd mynydd, byddwch yn cyrraedd y copa mewn pryd i wylio’r haul yn codi yn y pellter.

Rydyn ni’n cynnal ein teithiau grŵp bron bob dydd rhwng mis Ebrill a mis Hydref neu os ydych chi am archebu’n breifat byddwn ni hefyd yn cynnig dewis arall o lwybrau. Byddwn yn sgwrsio â chi ymlaen llaw ac yn sicrhau bod gennych yr offer cywir ar gyfer diwrnod allan pleserus. Ar y diwrnod fe fyddwch chi’n cwrdd â’ch tywysydd yn y man cychwyn a byddant yn eich arwain yn ddiogel i’r copa (ac yn ôl eto!) gan ddweud ffeithiau difyr a jôcs gwael wrthych ar hyd y daith.

P’un a ydych chi’n ei wneud ar gyfer elusen, gyda grŵp o ffrindiau, fel taith i’r teulu neu dim ond er eich pleser eich hun, bydd MountainXperience yn gwaredu’r drafferth o gynllunio’ch antur ac yn eich cadw’n ddiogel ar y diwrnod. Byddwch ond yn cwrdd â thywyswyr mynydd cymwys a phrofiadol sydd wedi’u hyswirio’n llawn ac sydd â thystysgrifau cymorth cyntaf cyfredol i sicrhau eich diogelwch. Rydym wedi bod yn crwydro mynyddoedd Eryri ers dros ddegawd ac rydyn ni wrth ein bodd yn eu rhannu gyda chi.

Os ydych chi’n barod i archebu eich taith codiad haul ar yr Wyddfa, cliciwch yma i ddewis eich dyddiad dewisol o’n calendr argaeledd byw.